Rhybudd am driniaeth cyflwr dystonia yng Nghymru

Mae cymdeithas dystonia yn rhybuddio na all y driniaeth i bobl sy'n byw â'r cyflwr yng Nghymru barhau fel ag y mae.

Mewn cyfweliad â Newyddion 9, maen nhw'n dweud bod prinder staff meddygol cymwys yn y maes a diffyg ymwybyddiaeth yn golygu bod cleifion yn wynebu heriau ychwanegol.

Tua 3,500 o bobl sy'n byw â dystonia yng Nghymru, cyflwr niwrolegol sy'n achosi cryndod.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi buddsoddi £1m mewn therapïau niwrolegol yn ddiweddar.