Dysgu gwersi o astudio'r arfordir
Mae'r gwaith wedi dechrau o asesu safleoedd twristiaeth ar hyd arfordir Cymru am effaith newid hinsawdd, erydu a lefelau'r môr fel rhan o brosiect gwerth £3.4m.
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru sy'n arwain y prosiect, yn ogystal â Phrifysgol Aberystwyth, a Chanolfan Archeoleg ac Arloesedd Iwerddon, a'r Arolwg Daearegol yn Iwerddon.
Gobaith Hywel Griffiths o Brifysgol Aberystwyth yw y bydd yr astudiaeth yn help wrth geisio diogelu safleoedd treftadaeth.