Arweinydd newydd am weld Caerdydd yn 'ffynnu a thyfu'
Mae cynghorwyr Llafur Cyngor Caerdydd wedi dewis Huw Thomas fel arweinydd newydd i olynu Phil Bale.
Yn wreiddiol o Aberystwyth, mae Mr Thomas yn gynghorydd yn ward Sblot.
Wedi'r bleidlais nos Lun, dywedodd wrth BBC Cymru ei fod yn dymuno gweld y ddinas yn "ffynnu a thyfu", wrth alw i'r blaid uno yn yr awdurdod.