Arddangos celf Cymro i'r byd yn Biennale Fenis

Bob dwy flynedd, mae sylw'r byd celf yn troi at Fenis wrth i'r ddinas yn yr Eidal droi'n oriel anferth ar gyfer celf gyfoes gorau'r byd.

Ers 2003 mae Cymru wedi cystadlu yn y Biennale, ac eleni cyfle James Richards o Gaerdydd yw hi i gynrychioli ei wlad.

Aeth gohebydd celfyddydau BBC Cymru, Huw Thomas i gwrdd ag o, ac i gael blas o'i arddangosfa.