'Angen codi ymwybyddiaeth o ddementia'
Mae cleifion dementia sy'n siarad Cymraeg yn cael diagnosis hwyrach na'r rhai sy'n uniaith Saesneg, yn ôl ymchwil newydd.
Mae ymchwil Prifysgol Bangor yn awgrymu mai'r gwahaniaeth amser, ar gyfartaledd, yw tair blynedd.
Mae Glenda Roberts o Bwllheli, sy'n byw gyda'r cyflwr, yn dweud bod angen codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr.