Chris Coleman yn derbyn OBE wedi llwyddiant Euro 2016

Mae rheolwr Cymru, Chris Coleman wedi derbyn OBE gan Dywysog Cymru ym Mhalas Buckingham.

Cafodd Coleman, 46, ei gydnabod am ei wasanaethau i bêl-droed ar ôl arwain Cymru i rownd gynderfynol Euro 2016.

Mae'r rheolwr wedi dweud eisoes mai ymgyrch Cwpan y Byd 2018 fydd ei olaf fel rheolwr Cymru, os ydyn nhw'n cyrraedd y rowndiau terfynol yn Rwsia ai peidio.