Y Scarlets yn paratoi ar gyfer y rownd derfynol y Pro 12
Mae'r Scarlets yn prysur baratoi ar gyfer rownd derfynol y Pro 12 yn erbyn Munster yn Nulun.
Llwyddodd Y Scarlets i ennill yn erbyn Leinster nos Wener o 27 - 15 a hynny gyda 14 dyn am ran helaeth o'r gêm.
Mae'r Scarlets yn aros i glywed os bydd Steff Evans yn cael chwarae yn y rownd derfynol ar ôl iddo weld y garden goch am dacl frwnt yn erbyn Garry Ringrose.
Bydd Y Scarlets yn wynebu Munster yn Nulun ar 27 Mai gyda'r gic gyntaf am 18:15.