Carwyn Jones: Sefyll 'ochr yn ochr' gyda Manceinion

Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi rhoi teyrnged i'r rhai sydd wedi marw yn yr ymosodiad terfysgol ym Manceinion.

Dywedodd bod pobl Cymru yn "sefyll ochr yn ochr gyda phobl Manceinion heddi".

Mae munud o dawelwch yn cael ei gynnal yn y Senedd ac mae gwylnos wedi ei drefnu tu allan i risiau'r Senedd nos Fawrth.