Cyfarchion Cymraeg seren Juventus, Claudio Marchisio
Claudio Marchisio, un o sêr Juventus sydd wedi chwarae dros 350 o gemau i'r clwb, a sgorio 37 o goliau.
Ond cyn gêm fwyaf y byd pêl-droed, ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd nos Sadwrn, mae Marchisio wedi gyrru ei gyfarchion i bobl Cymru, yn Gymraeg!
Cafodd y chwaraewr canol cae ei hyfforddi yn y Gymraeg gan Gabriel Cortinas, sy'n byw yn y dref o ble mae Marchisio yn dod.
A gan ei fod yn dysgu Saesneg i chwaer Marchisio, Elena, aeth ati i ddysgu ambell air o Gymraeg i'r gŵr o'r Eidal.