AS ieuengaf Cymru yn esbonio sut wnaeth o gipio'r sedd
Mae Plaid Cymru wedi cipio Ceredigion- o drwch blewyn.
Ben Lake, sydd yn 24 oed, yw Aelod Seneddol ieuengaf Cymru a Plaid Cymru erioed.
104 o bleidleisiau oedd rhwng Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae'r canlyniad yn golygu fod y rhyddfrydwyr wedi colli'r unig AS oedd ganddyn nhw yng Nghymru.
Mae'r gwleidydd ifanc yn esbonio'r rhesymau pam fod y blaid wedi llwyddo yn yr etholaeth.