Meddygon yn portreadu profiadau trwy luniau
Mae doctoriaid Cymru wedi bod yn mynegi beth mae bod yn feddyg yn golygu iddyn nhw ar ffurf celf.
Fe lansiodd Cymdeithas Feddygol Prydain y gystadleuaeth ffotograffiaeth ym mis Mai er mwyn creu trafodaeth a deall y realiti o fod yn feddyg yn 2017.
Roedd Dr Bethan Roberts yn un o'r rhai ddaeth i'r brig ac mae'n dweud bod y casgliad o luniau gan y meddygon wedi bod yn rhai amrywiol.