Holi'r Prif Weinidog: Dadansoddiad Vaughan Roderick
Golygydd materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick sy'n dadansoddi sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog ddydd Mawrth.
Mae'n dweud mai arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, gafodd y sesiwn fwyaf effeithiol o ran arweinwyr y gwrthbleidiau, wrth iddo dynnu sylw at y gwahaniaeth barn rhwng Carwyn Jones a Kirsty Williams ar brofion PISA.
Ar y pegwn arall, mae Vaughan yn dweud bod arweinydd UKIP yn y Cynulliad, Neil Hamilton, wedi "camddarllen" y Cynulliad gan gyhuddo Jeremy Corbyn o ddefnyddio trychineb Tŵr Grenfell i elwa'n wleidyddol, ac yn awgrymu efallai ei bod yn amser i Leanne Wood ofyn cwestiwn am rywbeth ar wahân i farchnad sengl yr UE.