Ynys Môn yn barod ar gyfer Gemau'r Ynysoedd yn Gotland
Mae tîm Ynys Môn bellach wedi cyrraedd Gotland, sef lleoliad Gemau'r Ynysoedd eleni.
Bydd y cystadlu yn Sweden dechrau ddydd Sadwrn, gydag athletwyr yn ogystal â thimau chwaraeon yn gobeithio am rywfaint o lwyddiant tra'u bod nhw yno.
Dydyn nhw ddim yno i chwilio am fedalau yn unig, fodd bynnag - mae'n gyfle hefyd i wneud rhywfaint o waith cartref wrth iddyn nhw geisio denu'r Gemau i Fôn yn 2025.