Alun Cairns: Sefyllfa Gogledd Iwerddon yn 'gwbl wahanol'

Mae'r setliad datganoli yng Ngogledd Iwerddon yn "gwbl wahanol" i Gymru, ac felly'n galw am becyn ariannol gwahanol hefyd, yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns.

Roedd Mr Cairns yn ymateb i feirniadaeth o £1bn ychwanegol i Ogledd Iwerddon gan Theresa May am gefnogaeth plaid y DUP i'w llywodraeth.

Ychwanegodd Mr Cairns bod Mrs May eisoes wedi dangos ei chefnogaeth i Gymru drwy sicrhau'r setliad ariannol "cywir".