Cylchffordd Cymru: 'Rhaid cael ymchwiliad llawn'

Mae AC Plaid Cymru Adam Price wedi galw am ymchwiliad llawn i holl benderfyniadau Llywodraeth Cymru ar gynllun trac rasio Cylchffordd Cymru.

Dywedodd llefarydd y blaid ar yr economi bod y penderfyniad yn rhan o "batrwm bod gwybodaeth gamarweiniol yn cael ei rannu gan Lywodraeth Cymru".