'Cyflenwad LSD wedi'i gladdu yng Ngharno'
Roedd y saithdegau yn gyfnod a welodd un o'r cyrchoedd mwyaf erioed gan yr heddlu yn erbyn cynhyrchwyr a dosbarthwyr cyffuriau LSD.
Canolbarth Cymru oedd canolbwynt yr ymgyrch ac fe gafwyd hyd i LSD gwerth miliynau o bunnau mewn tŷ ger Tregaron.
Ond ai dyna ddiwedd y stori? Mae un cyn dditectif oedd yn rhan o Operation Julie yn honni bod cyflenwad cudd o LSD dal wedi ei gladdu yng Ngharno.