'Mynd am ddim ar fws penwythnos yn bryder i rai'
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun newydd ddydd Iau i gynnig teithiau bws am ddim ar y penwythnosau.
Mae'r cynllun peilot yn berthnasol i holl fysiau rhwydwaith TrawsCymru ac yn rhedeg bob penwythnos tan fis Mai y flwyddyn nesaf.
Mae'r Llywodraeth yn dweud ei bod yn gobeithio y bydd y fenter hefyd yn rhoi hwb i gyrchfannau ac atyniadau twristiaeth.
Er y bydd cwmniau llai yn cael cynnig arian i'w digolledu petaent yn colli cwsemeriaid, mae nifer yn poeni am eu dyfodol, yn eu plith, Mel Evans o gwmni Mid Wales Travel, Aberystwyth.