Cadeirydd y Cyngor Llyfrau'n croesawu adroddiad

Mae cadeirydd Llenyddiaeth Cymru yn dweud eu bod wedi'u "cythruddo" gan adolygiad annibynnol o'r corff, sy'n llawn "camgymeriadau".

Ond mae'r adroddiad yn canmol gwaith Cyngor Llyfrau Cymru, gan awgrymu y dylai'r corff gymryd rheolaeth o nifer o gyfrifoldebau Llenyddiaeth Cymru.

Dywedodd cadeirydd y Cyngor Llyfrau, yr Athro M Wynn Thomas y gallai'r adroddiad "atgyfnerthu'r gwasanaeth ry'n ni'n ei gynnig i'r diwydiant cyhoeddi yma yng Nghymru".