Rheol iaith Eisteddfod: 'Angen gwthio'r ffiniau'

Pythefnos tan yr Eisteddfod Genedlaethol ar Ynys Môn, mae un o gerddorion amlycaf Cymru wedi dweud bod angen ystyried llacio rheol iaith y Brifwyl i gantorion.

Dywedodd y pianydd Iwan Llywelyn Jones bod angen gwthio'r ffiniau, a bod yn fwy mentrus o ran y dewisiadau cerddorol.

Bu'n siarad ar raglen y Post Cyntaf.