BBC Cymru Fyw

Dau aur i Aled Sion Davies: 'Sai'n gallu credu fe'

Fe wnaeth yr athletwr Aled Sion Davies osod record byd newydd i ennill medal aur yng nghystadleuaeth taflu pwysau F42 ym Mhencampwriaethau Para-athletau'r Byd nos Sadwrn.

Roedd eisoes wedi ennill aur yn y ddisgen F42 yn Llundain, a dyma'r trydydd tro yn olynol i'r Cymro ennill y ddwy gystadleuaeth yn y pencampwriaethau.

Yn siarad ar ôl ennill ei ail aur, dywedodd ei fod wedi "gweithio mor galed" a'i fod "mor falch" o ennill pencampwriaeth arall.