Pawb isho mynd i Sir Fôn!
Mae Geraint Løvgreen a'i fand wedi penderfynu eu bod nhw eisiau mynd i Sir Fôn wedi'r cyfan...
Daeth y criw at ei gilydd i recordio fersiwn newydd o'r gân 'Dwi'm Isho Mynd i Sir Fôn' i ddathlu ymweliad Eisteddfod Genedlaethol 2017 â'r ynys.
A nawr "...ma' pawb isho mynd i Sir Fôn"!
Recordiwyd y gân wreiddiol 'Dwi'm Isho Mynd i Sir Fôn' gan Geraint Løvgreen a'r Enw Da yn yr 1990au cynnar.
Meddai Geraint: "'Naeth pobl Sir Fôn ddim ei gymryd o'n rhy dda ar y pryd, dwi'm yn meddwl…"
Ond gyda'r Eisteddfod wedi'i leoli ar yr ynys eleni, dyma gyfle i'r criw wneud yn iawn am y fath sarhad!
"'Da ni'n hollol newid o tro 'ma! 'Da ni isho dod i Sir Fôn tro 'ma," meddai Geraint.
"A 'da ni'n edrych ymlaen rwan at weld pawb yn y Steddfod wrth gwrs…"