Brexit yn gyfle i 'ddatblygu polisïau amgylcheddol'
Mae Brexit yn cynnig cyfle i sectorau yn y maes amgylcheddol gydweithio yn agosach a datblygu atebion Cymreig meddai Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru dywedodd Dr Emyr Roberts fod yr Undeb Ewropeaidd wedi cael effaith gadarnhaol ar y cyfan ond bod "potensial i wneud hyd yn oed yn well".
Bydd Dr Emyr Roberts yn ymddeol ym mis Hydref ar ôl bron i bum mlynedd wrth y llyw.