Annog cleifion diabetes i gael prawf llygaid
Mae cyfran y bobl sy'n colli eu golwg oherwydd clefyd diabetes wedi haneru yng Nghymru mewn llai na degawd, medd gwaith ymchwil dylanwadol.
Daw'r gostyngiad yn dilyn cyflwyno prawf sgrinio sy'n caniatáu i arbenigwyr weld niwed yn llygaid unigolion sydd â diabetes cyn i unrhyw symptomau ddod i'r amlwg.
Yn ôl ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe, mae'r canfyddiadau "dramatig" a gafodd ei cyhoeddi yn y British Medical Journal yn profi gwerth y profion sgrinio, gafodd eu harloesi yng Nghymru.
Yr Athro David Owens fu'n esbonio pwysigrwydd y profion wrth Owain Clarke.