Cyngor Sir Gâr yn creu cynllun i helpu cefn gwlad
Mae Cyngor Sir Gâr wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi creu gweithgor i baratoi strategaeth a chynlluniau penodol ar gyfer cynorthwyo cymunedau gwledig yr ardal wedi 2019.
Bydd y gweithgor yn cael ei arwain gan y cynghorydd Cefin Campbell, yr aelod o fwrdd gweithredol y cyngor sir dros faterion gwledig.
Ei nod fydd ystyried y materion sy'n effeithio ar rannau gwledig o'r sir, a pharatoi adroddiad gydag argymhellion ynghylch sut y gall y cyngor weithredu i sicrhau bod yna adfywiad dros y blynyddoedd i ddod.