BBC Cymru Fyw

'Siarad Cymraeg a pheidio troi i'r Saesneg yn help'

Wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol bydd cystadleuwyr Dysgwyr y Flwyddyn yn cael gwybod pwy sydd wedi dod i'r brig.

Pedwar sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ac yn eu plith mae Daniela Schlick.

Mae'n dweud bod cael Cymry Cymraeg sydd yn fodlon siarad Cymraeg gyda hi heb droi i'r Saesneg yn help mawr wrth iddi ddysgu'r iaith.