Angen cyfle i ddysgu'r Gymraeg tu allan i oriau gwaith

Richard Furniss o Langefni yw un o'r cystadleuwyr sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwyr y Flwyddyn 2017.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys Môn.

Mae Richard, sydd wedi bod yn dysgu ers 2005 yn dweud bod angen cynnig hyblygrwydd o ran amseroedd dosbarthiadau i ddysgwyr sydd yn gweithio llawn amser.