Tanio canon i nodi brwydr Passchendaele

Mae seremoni i nodi "awr sero" brwydr Passchendaele 100 mlynedd yn ôl wedi ei gynnal yng ngwlad Belg.

Dyma oedd un o frwydrau mwyaf gwaedlyd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cafodd 4,000 o filwyr o Gymru eu hanafu neu eu lladd ar y diwrnod cyntaf, 31 Gorffennaf 1917.

Cafodd canon ei danio fel rhan o'r seremoni yn gynnar fore Llun yn Langemark.

Dyma oedd lle yr aeth milwyr Cymru dros ymyl y ffos gyda gorchymyn i geisio gwthio'r Almaenwyr, oedd yn taflu bomiau arnyn nhw o bentref Pilkem, yn ôl.