Passchendaele: 'Hollbwysig peidio anghofio'
Mae gwleidyddion Cymru wedi nodi 100 mlynedd ers dechrau Brwydr Passchendaele mewn gwasanaeth yng Ngwlad Belg ddydd Llun.
Cafodd 3,000 o Gymry - gan gynnwys y bardd, Hedd Wyn - eu lladd neu eu hanafu yn y frwydr yn 1917, oedd yn rhan o'r Rhyfel Byd Cyntaf.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones - un fu'n siarad yn y gwasanaeth - ei bod hi'n "hollbwysig peidio anghofio'r rhai fu farw yn ystod brwydr Passchendaele".