Rhedwr 'mor hapus' i gynrychioli Prydain mewn marathon
Ychydig wythnosau yn ôl roedd Andrew Davies, 37 oed yn rhedeg ychydig filltiroedd bob wythnos.
Ond ar ôl cael galwad ffôn yn ddi-rhybudd, mae wedi bod yn hyfforddi yn llawer mwy dwys am ei fod nawr yn rhedeg marathon y dynion ym Mhencampwriaeth Athletau'r Byd ddydd Sul.
Mae wedi camu i'r adwy ar ôl i Robbie Simpson dynnu yn ôl wedi anaf.
Pum wythnos o amser paratoi oedd ganddo ond mae'n dweud ei fod wrth ei fodd cael cystadlu am y tro cyntaf yn y bencampwriaeth.