Eisteddfod Llanbed 'yn parhau i gynnig gwobrau hael'
Mae un o'r Eisteddfodau sy'n cael ei hystyried yn un o'r mwyaf yng Nghymru yn dathlu hanner canrif eleni.
Ers dechrau yn 1967, mae wedi tyfu o fod yn ŵyl un dydd i un sy'n para tri diwrnod.
Dros y blynyddoedd mae nifer o gantorion adnabyddus wedi ennill teitl Llais Llwyfan gan gipio'r wobr o fil o bunnau yn Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan.
Mae'r Eisteddfod yn digwydd dros y penwythnos ac yn ôl yr Ysgrifennydd Cyffredinol Dorian Jones, "mae'r gwobrau'n parhau i fod yn hael."