Rygbi Glantaf: 'Ni'n hoffi curo timau o Loegr'
Bydd tîm Ysgol Glantaf yng Nghaerdydd yn cystadlu yn rownd derfynol Pencampwriaeth Rygbi'r Gynghrair Cymru a Lloegr am y drydedd flwyddyn yn olynol yn ddiweddarach.
Fe fydd tîm blwyddyn naw yr ysgol yn herio Ysgol Ramadeg Mirfield o Orllewin Sir Efrog yng Nghlwb Rygbi Richmond yn Llundain brynhawn Gwener.
Cyn iddyn nhw deithio yno bu Gwilym, Tirion ac Osian o'r garfan yn sôn am y paratoadau cyn y gêm fawr.