Osian Roberts: Cymru v Awstria yn gêm 'anferthol'

Mae gêm Cymru yn erbyn Awstria nos Sadwrn yn "anferthol", yn ôl yr hyfforddwr, Osian Roberts.

Dywedodd Roberts bod rhaid i Gymru ennill i "gymryd y cam cynta'" tuag at rediad da ym mhedair gêm olaf rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018.

Mae Cymru wedi ennilll un a chael pum gêm gyfartal yn ystod yr ymgyrch hyd yma.