'Sioc' dynes wedi sylwadau honedig am y Gymraeg
Mae dynes o Lanbedr Pont Steffan yn dweud ei bod mewn "sioc" wedi digwyddiad honedig ble gafodd ei sarhau am siarad Cymraeg â'i phlentyn.
Yn ôl Elin T Jones, roedd hi wrthi'n egluro enwau ffrwythau i'w merch, Elena, pan glywodd y sylwadau honedig.
Mae cyn-Gomisiynydd Cydraddoldeb Hiliol Cymru wedi galw am ddatganoli mwy o rymoedd os does dim parodrwydd yn San Steffan i fynd i'r afael â'r math yma o ddigwyddiadau.
- Cyhoeddwyd
- Adran
- Cymru Fyw
- Is-adran
- Canolbarth