'Pryder mawr' pennaeth ysgol am golli arian
Gallai Ysgol Dewi Sant yn Llanelli golli £9m mewn cyllid os nad ydy cynlluniau i symud i safle newydd yn cael sêl bendith, yn ôl y pennaeth.
Mae rhai yn gwrthwynebu safle newydd yr ysgol ar gaeau Llanerch.
Ond yn ôl Ann Clwyd Davies, byddai peidio symud yn ergyd ariannol i'r ysgol, sy'n dweud y byddai eu safle presennol angen £500,000 ar gyfer gwaith adnewyddu.