Cymru 'heb elwa digon' o'r awdur Roald Dahl
Mae cyn-brif weithredwr Llenyddiaeth Cymru yn dweud bod y wlad heb elwa digon o'r ffaith fod Roald Dahl wedi'i eni yng Nghymru.
Ar ganmlwyddiant geni'r awdur, dywedodd Peter Finch fod cysylltiadau Dahl a Chymru "wedi'u chwalu".
Dywedodd Mr Finch, sydd hefyd yn awdur o Gaerdydd, nad oes gan ymwelwyr i'r brifddinas unrhyw le i fynd i ddysgu amdano.
"Mae Dahl yn un o'r ychydig ffigyrau o Gymru ble mae ei enw yn golygu rhywbeth y tu allan i'r wlad," meddai.