Adweithydd niwclear bychan yn hwb i Gymru?
Yn ôl consortiwm sy'n gobeithio adeiladu math newydd o adweithydd niwclear bychan, mi allai'r cynllun roi hwb economaidd sylweddol i Gymru.
Mae Trawsfynydd wedi ei grybwyll fel lleoliad posib ar gyfer datblygiad o'r fath - datblygiad a allai greu cannoedd o swyddi.
Bellach mae consortiwm dan arweiniad Rolls Royce wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i roi cefnogaeth ariannol i ddylunio adweithyddion bychain.
Ond mae ymgyrchwyr gwrth-niwclear yn dadlau nad ydi'r dechnoleg wedi ei phrofi.
O Drawsfynydd, dyma Sion Tecwyn