20 mlynedd ers datganoli: Yr effaith ar y Gymraeg

Mae'r Gymraeg wedi diodde' "degawd coll" ers datganoli, yn ôl cyn-brif weithredwr Bwrdd yr Iaith.

Mewn cyfweliad â rhaglen Newyddion 9, dywedodd Meirion Prys Jones fod gormod o bwyslais wedi bod ar ddeddfu, bod "chwarae gwleidyddiaeth" wedi bod â'r iaith ac y gallai hi "foddi mewn dŵr cynnes".

Ddydd Llun bydd hi'n 20 mlynedd union ers refferendwm 1997, a Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Aled ap Dafydd sy'n edrych ar effaith datganoli ar y Gymraeg.