Refferendwm 1997: 'Noson dyngedfennol yn hanes Cymru'

20 mlynedd ers i Gymru bleidleisio o drwch blewyn dros ddatganoli, Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick sy'n rhannu ei atgofion o'r noson honno 'nôl yn 1997.

Mae'n tynnu sylw at y tebygrwydd i refferendwm Brexit ac yn dweud ei bod yn "noson dyngedfennol yn hanes Cymru".