Alun Cairns: 'Angen i ddatganoli addasu i anghenion'

Dylai Llywodraeth Cymru basio mwy o bwerau i ranbarthau Cymru yn hytrach na rheoli popeth o Gaerdydd, yn ôl Ysgrifennydd Cymru.

Ar drothwy 20 mlynedd ers y refferendwm wnaeth greu'r Cynulliad, dywedodd Alun Cairns fod gormod o rym wedi ei "ganoli" yn y brifddinas.

Mae angen i Gymru ymateb i'r her sydd yn eu hwynebu gan feiri etholedig newydd ym Manceinion, Bryste a Glannau Mersi, meddai.