Carwyn Jones: Cymru 'mewn sefyllfa well ers 1997'
Union 20 mlynedd yn ôl ar 18 Medi 1997 fe bleidleisiodd pobl Cymru o drwch blewyn o blaid datganoli grym.
Fe arweiniodd hynny at greu Cynulliad ym Mae Caerdydd sy'n gyfrifol am feysydd fel iechyd ac addysg yng Nghymru.
Yn siarad â rhaglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones mai "rhoi hyder i Gymru" yw'r gwahaniaeth mwyaf wnaeth sefydlu'r Cynulliad.