Angen atebion iechyd hir dymor medd llawfeddyg
Mae Awen Iorwerth, Llawfeddyg Ymgynghorol ac Uwch-ddarlithydd Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dweud bod angen cynllunio ac ariannu prosiectau iechyd am 20 mlynedd wrth edrych i'r dyfodol.
Mae'n dweud bod yn rhaid meddwl yn yr hir dymor.
Daw ei sylwadau wrth i Cymru Fyw edrych ar feysydd sydd wedi eu datganoli, 20 mlynedd ers y refferendwm wnaeth olygu llunio Cynulliad Cenedlaethol i Gymru.