Ymosodiad Manhattan: Wyth wedi eu lladd
Mae wyth o bobl wedi cael eu lladd ac 11 wedi'u hanafu ym Manhattan yn Efrog Newydd.
Mae un person wedi cael ei arestio wedi i gerbyd daro pobl ar hyd llwybr i gerddwyr a beicwyr yn y ddinas.
Dywed yr awdurdodau fod y digwyddiad yn ymosodiad terfysgol.
Yn ôl adroddiadau, y dyn oedd Sayfullo Saipov, mewnfudwr o Uzbekistan a ddaeth i'r Unol Daleithiau yn 2010.
Mae gohebydd BBC Cymru Aled Scourfield yn Efrog Newydd a bu'n rhoi ei argraffiadau am y digwyddiad.
- Cyhoeddwyd
- Adran
- Cymru Fyw
- Is-adran
- Newyddion a mwy