'Y dyfodol yn ddisglair' i dîm pêl-droed Cymru

Mae'r chwaraewr canol cae Andy King a'r ymosodwr Sam Vokes wedi bod yn sgwrsio â'r wasg cyn i Gymru herio Ffrainc a Panama yn yr wythnos nesaf.

Mae Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru, Owain Llŷr yn dweud mai dau beth ddaeth i'r amlwg yn y gynhadledd, sef bod yr holl chwaraewyr yn awyddus i'r rheolwr Chris Coleman aros, ac er na fyddan nhw yn rhan o Gwpan y Byd 2018, bod rheswm i gredu bod y dyfodol yn ddisglair i'r tîm.