Cofio'r actor a'r dramodydd Meic Povey
Mae teyrngedau'n cael eu rhoi i'r dramodydd a'r actor Meic Povey, fu farw yn 67 oed.
Yn wreiddiol o Nant Gwynant ger Beddgelert, roedd yn un o sylfaenwyr yr opera sebon Pobol y Cwm, yn ogystal â sgriptio ar gyfresi fel Ryan a Ronnie.
Aeth ymlaen i ennill gwobrau Bafta am y ffilm Nel, a'r gyfres deledu Talcen Caled.
Ellis Roberts sy'n edrych yn ôl ar ei fywyd.