Cyhoeddi cyflwynwyr Radio Cymru 2
Bydd gwasananeth newydd sbon Radio Cymru 2 yn dechrau yn y flwyddyn newydd ond mae'n bosib y byddwch chi wedi clywed lleisiau'r ddeuawd fydd yn cyflwyno'r rhaglen gyntaf rhywle o'r blaen!
Bydd Dafydd Meredydd a Caryl Parry Jones yn ail afael yn eu perthynas radio i gynnig rhaglen fywiog, hwylus rhwng 06:30 a 08:30 o ddydd Llun i dydd Iau ar yr orsaf ddigidol newydd fydd yn darlledu am y tro cyntaf ar 29 Ionawr 2018.