Cymwysterau Mathemateg 'gyfwerth' â'i gilydd
Mae gwaith ymchwil gan BBC Cymru wedi darganfod fod rhai prifysgolion ddim ond yn mynd i dderbyn un cymhwyster TGAU Mathemateg wrth dderbyn ceisiadau ar gyfer llefydd.
Ers 2015, mae disgyblion Cymru wedi bod yn astudio dau gymhwyster mathemateg - Mathemateg a Rhifedd.
Ond mae rhai prifysgolion yn dweud na fyddan nhw'n derbyn y cymhwyster Rhifedd pan maen nhw'n gofyn am radd benodol ym mathemateg ar lefel TGAU.
Yn ôl Emyr George, cyfarwyddwr gyda Cymwysterau Cymru, dylai'r ddau gymhwyster gael eu trin gyfwerth â'i gilydd.
Mae'n dweud eu bod wedi llwyddo i newid polisïau rhai o'r prifysgolion ar ôl rhoi mwy o wybodaeth iddyn nhw.