'Diffyg cyfle' i siarad yr iaith tu allan i'r dosbarth
Mae adroddiad blynyddol Estyn, sydd yn edrych yn ôl dros gyfnod o saith mlynedd, yn dangos bod lot o newid wedi bod yn y maes, yn enwedig o ran newid diwylliant.
Tra bod yna welliannau mewn llythrennedd sylfaenol, ymddygiad a phresenoldeb, mae yna bryder nad yw sgiliau digidol ysgolion wedi gwella digon i adlewyrchu datblygiad technoleg.
Un maes arall lle mae angen gweld cynnydd, medd y prif arolygydd, Meilyr Rowlands, yw'r iaith Gymraeg.
Mae'n dweud nad oes dal dim digon o gyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio'r iaith tu allan i'r dosbarth yn yr ysgolion cyfrwng Saesneg.