Chwifio'r faner dros Gymru
Mae 93 o enwau wedi eu hychwanegu at y 31 o athletwyr oedd eisoes yn gwybod eu bod yn cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad.
Awstralia a'r Arfordir Aur sy'n croesawu'r Gemau eleni.
Fe fydd aelodau'r timoedd hoci a Rygbi 7 bob ochr yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Iwan Griffiths, Newyddion 9, sy'n taflu golwg ar ambell un fydd yn chwifio'r faner dros Gymru ymhen ychydig dros ddeufis.