Argymell pleidlais i bobl 16 ac 17 oed
Gallai pobl 16 ac 17 oed gael yr hawl i bleidleisio yng Nghymru yn y dyfodol agos petai cynlluniau i ddiwygio etholiadau yn dod i rym.
Mae Llywodraeth Cymru am ostwng yr oedran pleidleisio er mwyn caniatáu pobl ifanc i fwrw eu pleidlais yn etholiadau llywodraeth leol yn 2022.
Mae Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, yn dweud hefyd y dylid rhoi pleidlais i ddinasyddion tramor sy'n "byw yn gyfreithlon yng Nghymru".