Ysgol O M Edwards yn codi arian i deuluoedd yn Nepal
Beth yw'r cysylltiad rhwng Ysgol O M Edwards yn Llanuwchllyn, ieir, comic Cymraeg a Nepal?
Mae rhai o ddisgyblion yr ysgol wedi cynhyrchu comic fel rhan o'u gwaith menter a busnes, a gyda'r elw maen nhw'n mynd i brynu ieir i deuluoedd tlawd yn Nepal.
Mae gan yr ysgol ym Mhenllyn gysylltiad agos gydag ardal ac ysgol yn Nepal. Llŷr Edwards aeth i holi rhai o'r disgyblion a'r pennaeth, Dilys Ellis-Jones.